croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Dasher

abiword

Cyflwyniad

Rhyngwyneb cofnodi gwybodaeth amgen yw Dasher. Mae'n cael ei yrru gan y broses o bwyntio'r cyrchwr. Mae'n addas ar gyfer adegau lle nad oes modd defnyddio bysellfwrdd am unrhyw reswm.

Rhyngwyneb Dasher

Mae modd cysylltu'r rhaglen i lygoden, sgrin cyffwrdd neu ffon hud o unrhyw fath, mae hefyd modd ei ddefnyddio heb ddwylo drwy lygoden pen neu draciwr llygad.

Gydag ychwydig o ymarfer mae modd defnyddio'r system yn effeithiol iawn. Mae'r llygoden ynghlwm wrth y linell fertigol drwy gyfrwng llinell goch. Wrth gyfeirio'r cyrchwr mae posib dewis y llythrennau sy'n cael eu cynnig er mwyn creu geiriau a brawddegau. Yn ddiddorol, mae'r fersiwn Gymraeg yn ei gwneud yn anodd i gam dreiglo gan nad yw'r rhaglen yn fodlon iawn i'w cynnig.

Gosod y fersiwn Gymraeg

Ar waelod rhyngwyneb y rhaglen dewiswch Cymraeg/Welsh, fel yn y llun. Mae modd cyflymu neu arafu'r rhaglen drwy'r rheolydd ar y gwaelod chwith.

Hyd y gwela i does dim modd cyfieithu'r rhyngwyneb.

Cynhyrchwyd yr eirfa Gymraeg ar sail corpws Cronfa Electroneg o Gymraeg (CEG), 2001.

 

 

 

 

 

I